Denbigh Film Club, Theatr Twm O'r Nant, Station Road, Denbigh, LL16 3DA. Tel: 01745 813402/ 813426
................................................................................................................................................................................................
................................................................................................................................................................................................
Clwb Ffilmiau Dinbych
Theatr Twm o'r Nant,
Ffordd yr Orsaf,
DINBYCH, LL16 3DA.
Phone - Ffôn 01745 813402 /813426
Contact: Cyswllt: Vesi Jones /Lilian Jones
Croeso i Clwb Ffilmiau Dinbych
Mae Clwb Ffilm Dinbych yn gysylltiol â'r corff cenedlaethol o gymdeithasau ffilm, sef y Ffederasiwn Prydeinig o Gymdeithasau Ffilm. Mae'r gr?p gwirfoddol yma yn dangos ffilmiau'n fisol i aelodau'r clwb a gwestai.
Dangosir y ffilmiau yn Theatr Twm o'r Nant sydd â chyfarpar sinematig cyflawn, sgrîn drydan a thaflunydd. O bryd i'w gilydd, yn dilyn ceisiadau penodol oddi wrth y gymuned ac ar achlysuron arbennig, fe gyflwynir sioeau ychwanegol. Mae aelodau pwyllgor y clwb yn gweithio'n agos gydag amrywiol adrannau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych, ysgolion lleol a mudiadau cenedlaethol, megis Cyngor Ffilm Cymru.
Newyddion Diweddara
Gwobrau
'Rydym wedi ennill gwobr 'Cymdeithas Ffilm Newydd Orau 2008-09' ac anrhydeddau eraill gan gynnwys 'Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2008 a 2009' oddi wrth Ganolfan Gwirfoddoli Sir Ddinbych.
................................................................................
Gwybodaeth am ?yl Ffilm Dinbych (Denbigh Film Festival Info) right hand side
Dydd Gwener 16eg - Dydd Sul 18fed Hydref 2009
Theatr Twm o'r Nant
Ffordd yr Orsaf
Dinbych
………………………………………………………………….
Cystadleuaeth Ffilm 'Gwnaed yng Nghymru'
("Made in Wales Film Comp")
Bwriad y gystadleuaeth yma yw annog pobl o Gymru, o unrhyw oed yn y gelf o greu ffilm ac fe groesewir
ceisiadau o ysgolion, glybiau, colegau a phrifysgolion yn ogystal ag oddi wrth wneuthurwyr ffilm unigol.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.